
Amdanon Ni
Caiff PestSmart ei ddarparu i chi gan Dŵr Cymru. Rydyn ni’n annog ffyrdd mwy doeth o reoli chwyn, plâu ac afiechydon ar blanhigion sy’n helpu i warchod pobl, dŵr a bywyd gwyllt.
Mae Dŵr Cymru yn gweithio’n galed i ofalu am y tir, yr afonydd a’r cronfeydd i warchod ffynhonnell eich dŵr yfed am flynyddoedd i ddod; ‘TarddLe’ yw’r enw rydyn ni’n ei roi ar hyn.
PestSmart yw ymgyrch ddiweddaraf TarddLe, sy’n hyrwyddo ffyrdd mwy doeth o reoli chwyn, plâu ac afiechydon ar blanhigion. Mae ein rhaglen monitro dŵr arferol wedi canfod olion cynyddol o blaleiddiaid mewn ardaloedd lle nad ydyn nhw wedi’u canfod o’r blaen. Er bod y lefelau hynny’n rhy isel i beri risg i’r rhai sy’n yfed y dŵr, maen nhw’n ddigon uchel i fod yn torri safonau dŵr yfed llym. Rydyn ni am weithio gyda chi i fynd i’r afael â’r broblem yma gyda’n gilydd.
Drwy ddiogelu a gwella ansawdd y dŵr crai cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr, gallwn osgoi’r angen i ddefnyddio cemegion ac ynni ychwanegol i wneud eich dŵr yfed yn berffaith. Bydd gweithio gyda’n gilydd i leihau ein dibyniaeth ar blaleiddiaid yn ein helpu ni i gadw biliau’n isel ac yn gwarchod ac yn diogelu’r amgylchedd am genedlaethau i ddod.
Gwnewch eich rhan, a byddwch yn ddoeth gyda PestSmart
Mae arian ychwanegol gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig wedi’n cefnogi ni i ehangu’r cynllun PestSmart ledled Cymru.