
Storio’n Ddoeth
Bydd cymryd camau syml er mwyn storio plaleiddiaid mewn man diogel, o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes, yn helpu i osgoi achosion o golli hylif a chreu niwed i’r amgylchedd. Os bydd angen i chi ddefnyddio plaleiddiaid, dilynwch ein canllawiau i’w storio’n iawn.
Bydd storio plaleiddiaid yn gywir yn helpu i warchod pobl, anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt a’r dŵr. Dyma dri darn o gyngor ar sut i storio plaleiddiaid yn gywir.
Dilynwch ein canllaw arferion gorau ar gyfer storio plaleiddiaid
Sut i storio plaleiddiaid yn gywir
Canllaw ar beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud wrth storio plaleiddiaid, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â pheidio gwneud hynny’n iawn.