Sut i storio plaleiddiaid yn gywir
Mae’r ffordd gywir o storio plaleiddiad yn aml yn cael ei anwybyddu. Rydyn ni’n aml yn meddwl mwy am sut i gael gwared ar y chwyn yn hytrach na beth ddylen ni ei wneud gyda’r plaleiddiad cyn ac ar ôl ei ddefnyddio. Gall defnyddio, storio a gwaredu plaleiddiaid yn anghywir achosi niwed difrifol i’n hunain ac i’r amgylchedd. Dilynwch ein canllaw i’ch helpu i gymryd y camau cywir ar gyfer storio plaleiddiaid a gallwch warchod eich hunan, plant, anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt a chyrsiau dŵr.
Gwnewch y canlynol ✅
Darllenwch yr holl fanylion ar botel y plaleiddiad yn ofalus
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y label er mwyn dod o hyd i le diogel i gadw’r plaleiddiad sy’n oer a sych, allan o lygaid yr haul
Cadwch gemegion y tu hwnt i gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes
Rhowch farc clir ar y botel yn nodi’r dyddiad y cafodd ei hagor neu ei gwanhau, ac edrychwch ar y dyddiad dod i ben
Cadwch lygad ar boteli plaleiddiaid yn rheolaidd i wneud yn siŵr nad ydyn nhw wedi’u difrodi.
Ni ddylech wneud y canlynol ❌
Peidiwch byth â throsglwyddo’r plaleiddiad i gynhwysydd arall gan fod label y cynnyrch yn cynnwys gwybodaeth hanfodol, a gallech golli’r cemegion
Peidiwch â storio plaleiddiad yn agos at ddraen, mewn cypyrddau’n agos at fwyd, cyflenwadau meddygol na chynnyrch glanhau
Dylech osgoi eu cadw mewn ystafell lle mae bwyd neu ddiodydd yn cael eu paratoi neu eu bwyta
Peidiwch â phentyrru cynhwysyddion rhag ofn iddyn nhw gwympo a gollwng neu ddifrodi.
Gair I Gall:
1. Peidiwch â chadw stoc! Dylech ond prynu a storio faint sydd ei angen arnoch ar yr adeg honno.
2. Dylech storio plaleiddiaid yn eu poteli gwreiddiol bob amser – nid yw’n ddiogel eu trosglwyddo i boteli eraill.
3. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i’r gwerthwr neu i’r gwneuthurwr am gyngor.