7 ffordd o gadw’ch gardd yn rhydd rhag plâu sy’n ddiogel i anifeiliaid anwes

Yn y blog hwn mae Naomi Saunders, garddwraig arbenigol a chyflwynydd Garddio a Mwy ar S4C, yn rhannu ei chyngor ar sut i gadw plâu i ffwrdd o’ch gardd heb aberthu ei naws gyfeillgar i anifeiliaid anwes. P'un a ydych chi'n delio â llyslau trafferthus, gwlithod barus, neu anifeiliaid anwes chwilfrydig, mae gan Naomi gyngor gwych i'ch helpu i gael y cydbwysedd perffaith.

Wrth dyfu i fyny, roedd bob amser anifeiliaid anwes ganddon ni – cathod, cŵn, defaid ac ieir, a rhwng tyddyn fy rhieni a fy mwthyn bach i, mae ganddon ni bedwar ci, pedair cath (gan gynnwys dwy gath fach), tair dafad a phum iâr ar hyn o bryd. Mae pobl yn aml yn synnu pan fyddan nhw’n sylweddoli bod gen i gymaint o anifeiliaid anwes, ond mae pob anifail yn agos iawn at fy nghalon ac, fel garddwr, mae cyfrifoldebau’n dod law yn llaw â hyn.

Gall chwyn, plâu a chlefydau ar blanhigion achosi llawer o boen meddwl i arddwyr, ac mae eleni wedi bod yn flwyddyn arbennig o anodd i dyfwyr. Mae’n bosib y bydd pobl yn cael eu temtio i ddefnyddio plaladdwyr fel ateb cyflym, ond mae llawer o’r rhain yn anaddas ar gyfer anifeiliaid anwes ac yn gallu bod yn niweidiol i fywyd gwyllt, hyd yn oed rhai sydd wedi’u labelu fel rhai ‘ecogyfeillgar’.

Mae ein hanifeiliaid anwes yn aml yn palu’r ardd, yn rholio ar y lawnt ac yn rhedeg yn y glaswellt, ac mae hyn yn gallu eu rhoi mewn perygl gan eu bod yn gallu dod i gysylltiad â’r plaladdwyr fel hyn – gall y sylweddau drosglwyddo i’w pawennau a’u ffwr, a chael eu llyncu pan fyddan nhw’n llyfu eu hunain.

 

1.        Chwistrell Cartref: Gallwch greu ataliwr plâu naturiol drwy ddefnyddio cynhwysion yn eich cegin, fel garlleg, tsili neu sebon. Mae modd defnyddio chwistrell halen i ymladd yn erbyn chwyn, mae chwistrell garlleg yn helpu i ladd clefydau ffwngaidd, firaol neu bacteriol ar blanhigion, yn ogystal ag atal pryfed oherwydd ei arogl cryf, a gall cymysgedd o ddŵr a sebon golchi llestri atal chwilod â chyrff meddal. Mae’r ryseitiau hawdd yma ar gael yn fan hyn.

2.        Rhwystrau naturiol: Mae modd defnyddio rhwystrau fel rhwyd, tâp copr, neu eitemau organig fel gwlân neu blisgyn wy (sy’n creu arwyneb miniog nad yw gwlithod yn ei hoffi) er mwyn amddiffyn planhigion rhag plâu.

3.        Trapiau cwrw a nematodau – fy hoff gyfuniad: Mae trapiau cwrw’n ffordd effeithiol o ddelio â gwlithod. Mae’r arogl melys yn eu denu a bydd y gwlithod yn dewis y cwrw dros eich planhigion. Gallwch greu trap yn hawdd drwy lenwi jar wydr â chwrw a’i phlannu at ei chanol yn y ddaear. Os yw eich anifeiliaid anwes yn tueddu i fwyta ac yfed pethau na ddylen nhw, yna gallwch brynu trapiau gwlithod pyramid sydd yr un mor effeithiol ond yn anoddach i’ch anifeiliaid busneslyd yfed ohonyn nhw. Mae nematodau, sef pryfed parasitig sy’n byw’n naturiol yn y ddaear, yn gallu taclo gwlithod o dan y pridd. Gallwch brynu nematodau o’ch canolfan arddio leol a pharatoi stoc i drin eich gardd bob 4-6 wythnos yn ystod y tymor cynhesach – darllenwch fy mlog ar gyfer delio â gwlithod heb blaladdwyr yma

4.        Cyd-blannu: Mae plannu planhigion penodol gyda’i gilydd yn gallu atal plâu. Mae planhigion sydd ag arogl cryf fel dil, lafant, mintys a theim yn gallu drysu neu wrthyrru plâu, gan amddiffyn planhigion cyfagos. Mae blodau melyn Mair yn ffordd dda o gadw pryfed gwyn a phryfed gleision draw o’ch tomatos neu’ch ffa, tra bod arogl cryf lafant yn atal gwlithod a lindys gwyfynod. Gall planhigion eraill gael eu cyd-blannu fel planhigion aberthol, fel nad yw pryfed yn bwyta’r planhigyn ‘pwysig’ – gellir defnyddio capanau cornicyll i ddenu pryfed duon a’r gwyn bach.

5.        Pryfed Da: Mae gwneud eich gardd yn hafan i ysglyfaethwyr plâu fel pryfed hofran, adenydd siderog a gwenyn meirch parasitig sy’n bwyta pryfed fel pryfed gleision a lindys, yn dric arall dw i’n hoff o’i ddefnyddio. Mae milddail, dil, a blodau melyn Mair yn helpu i ddenu’r rhyfelwyr bach yma i’ch gardd. I annog pryfed da i ddod i’ch gardd, darllenwch y canllaw yma gan y garddwr Huw Richards.

6.        Tomwellt: Bydd taenu tomwellt yn hael yn eich gardd (sef gorchuddio’r pridd gyda haen rydd o ddeunydd sydd â mwynau ac olewau naturiol) yn ffordd o reoli chwyn a phryfed digroeso. Bydd hefyd yn helpu’r pridd i gadw lleithder, er mwyn ei gadw’n iach, a thorri i lawr dros amser, gan ychwanegu maetholion gwerthfawr i’r pridd.

7.        Tyfu ardaloedd gwyllt: Bydd cadw rhai ardaloedd o’ch gardd yn wyllt yn creu cynefinoedd naturiol sy’n denu ysglyfaethwyr fel brogaod, adar a draenogod a fydd yn bwyta plâu, ac yn cynnal ecosystem eich gardd. Mae hefyd yn ffordd o arbed amser rhag gorfod torri’r gwair a chwynnu, felly mae pawb ar eu hennill!

Cliciwch yma i lawrlwytho ein canllaw gydag awgrymiadau ar gyfer creu ardaloedd gwyllt yn eich gardd

Os ydych chi, fel fi, am i’ch anifeiliaid anwes fyw bywyd hir ac iach, rhowch y plaladdwyr o’r neilltu a rhowch gynnig ar y dulliau yma – does gennych chi ddim byd i’w golli!

Next
Next

Pam y dylech ystyried rhoi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr –Cyflwyno ‘Addewid Dim Plaladdwyr’ Ymddiriedolaethau Natur Cymru.