Sut i greu cornel bywyd gwyllt er mwyn helpu i reoli plâu yn eich gardd
Waeth beth yw maint eich gardd, gall fod yn gartref i adar, pryfed, peillwyr, mamaliaid a phlanhigion. Bydd gadael i ardaloedd o’ch ardd dyfu’n wyllt yn caniatáu iddyn nhw ffynnu ac yn gymorth i’r amgylchedd o ganlyniad.
Efallai y cewch eich temtio i fynd yn syth at ddefnyddio plaladdwyr, ond efallai y byddwch am ystyried dulliau mwy naturiol yn gyntaf. Gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau yn y blog yma drwy gydol y flwyddyn i gadw chwyn a phlâu o dan reolaeth. Drwy ddefnyddio dulliau naturiol, byddwch yn osgoi unrhyw effeithiau negyddol posib ar yr amgylchedd lleol.
Drwy groesawu ysglyfaethwyr naturiol i’ch gardd, fydd dim angen i chi ddibynnu ar chwynladdwyr a phryfleiddiaid. Bydd adar a brogaod yn bwyta gwlithod a malwod, tra bydd buchod coch cwta yn bwyta pryfed gleision, llau’r coed a phryfed duon – gan eu cadw nhw draw o’ch planhigion.
Dyma bum ffordd syml y gallwch greu hafan i fywyd gwyllt yn eich gardd.
1. Gadael iddo dyfu!
Gadewch i’ch cornel dyfu’n wyllt ac i natur gael ei rhyddid. Mae hyn yn wych i’r amgylchedd ac yn golygu na fydd angen i chi chwynnu.
2. Darparu planhigion ar gyfer peillwyr
Mae gwenyn yn hynod o bwysig ar gyfer yr amgylchedd, felly gallwn ni i gyd wneud ein rhan gartref i’w helpu. Yr awgrym cyffredinol yw plannu cymaint o wahanol rywogaethau o flodau ag y gallwch chi – gorau po fwyaf. Isod mae rhestr o awgrymiadau y bydd gwenyn wrth eu boddau gyda nhw o’r gwanwyn tan ddiwedd yr haf.
3. Gadael i’r glaswellt dyfu’n hirach nag arfer
Bydd gadael i’r glaswellt dyfu yn cynnig cynefin delfrydol i bryfed, a bydd gan blanhigion fel llygad y dydd gyfle i flodeuo a chynhyrchu neithdar. Ceisiwch ymestyn yr amser rhwng torri’ch glaswellt i bedair wythnos o leiaf, neu ei adael mor hir ag y gallwch chi.
4. Denu adar i’ch gardd
Mae adar yn ysglyfaethwyr naturiol a fydd yn helpu i gadw plâu i ffwrdd o'ch planhigion. Bydd plannu gwrychoedd, llwyni a choed yn darparu cysgod a mannau nythu, os nad yw hyn yn bosib rhowch gynnig ar godi bocs adar. Yn debyg i bobl, mae angen dŵr ar adar, ac mae rhoi dŵr ffres mewn cynhwysydd bas yn ffordd wych o'u hudo i'ch gardd. Cofiwch ei roi yn rhywle cysgodol a lle gall adar gadw golwg allan am ysglyfaethwyr posib.
5 Creu ardal gompost
Mae compostio yn cynnig llawer o fanteision i’ch gardd, yn enwedig er mwyn cyfoethogi’r pridd. Ond ar gyfer cornel wyllt eich gardd, bydd yn gartref pwysig i lyffantod, pryfed lludw, mwydod a llawer o bryfed eraill. Bydd annog y pryfed yma i'ch cornel wyllt yn denu ysglyfaethwyr naturiol i'r ardal yma, ac i ffwrdd o'ch planhigion neu lysiau. Gallwch greu llain gompostio gyda gwastraff cegin a gardd, ac ar ôl iddo gompostio, gallwch ei osod o amgylch eich planhigion i’w helpu i dyfu ac i atal chwyn.
Awgrymiadau da:
· Er cymaint o foddhad gall creu ardal ar gyfer bywyd gwyllt fod, mae angen i chi feddwl am eich anghenion a’ch dyheadau eich hunan ar gyfer eich gardd yn gyntaf. Mae dal modd i chi ddenu ysglyfaethwyr naturiol i’ch gardd i reoli plâu heb fod angen i’r ardal bywyd gwyllt ymestyn dros y rhan fwyaf o’ch gardd.
· Dechreuwch yn araf a gweld sut mae’r ardal wyllt yn tyfu dros amser. Mae glaswellt hir, amrywiaeth o blanhigion a bwrdd bwydo adar yn lle da i ddechrau. Yna, gallwch wylio’r ardal yn tyfu (yn llythrennol) ac ychwanegu elfennau eraill dros amser.