
PestSmart: Ffyrdd mwy doeth o reoli chwyn, plâu ac afiechydon ar blanhigion
Caiff Pestsmart ei ddarparu i chi gan Dŵr Cymru, ac rydyn ni’n angor ffyrdd doethach o reoli chwyn, plâu ac afiechydon ar blanhigion sy’n helpu i warchod pobl, dŵr a bywyd gwyllt.
Byddwch Ddoeth
Mae perygl y gall plaleiddiaid achosi niwed I pobl, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt arall os byddant yn cael eu defnyddio, eu storio neu eu gwaredu’n anghywir. Mae PestSmart yma i roi gwybodaeth a chyngor ar sut i ddefnyddio plaleiddiaid mewn modd diogel ac o dan reolaeth.
Atebion Naturiol
Mae digon o ddewisiadau amgen i blaleiddiaid, sy’n naturiol ac nad ydynt yn defnyddio cemegion, sy’n cynnig canlyniadau da ac yn helpu i reoli chwyn a phlâu o amgylch eich tŷ heb achosi niwed i’r amgylchedd. Bydd dewis cynnyrch amgen yn helpu i atal cemegion rhag cyrraedd ein cyrsiau dŵr a’r amgylchedd.
Eich Gardd
P’un a ydych chi’n arddwr brwd, yn tyfu planhigion yn eich cegin neu am roi cynnig ar arddio, bydd cyflwyno newidiadau bach yn ffordd o warchod yr amgylchedd am genedlaethau i ddod. Mae gan PestSmart gyngor ar sut i reoli’ch mannau gwyrdd heb fod yn ddibynnol ar blaleiddiaid.
Byddwch yn ddoeth gyda PestSmart a helpwch i ddiogelu’r amgylchedd a’r cyflenwad dŵr am flynyddoedd i ddod drwy leihau eich dibyniaeth ar blaleiddiaid.